Rydym ni'n gwmni dillad Cymraeg, cynaliadwy
Dillad cynaliadwy o ansawdd uchel
Mae ein dillad i gyd yn 100% organig ac yn cael eu cynhyrchu gyda chynaliadwyedd ar flaen ein meddyliau. Mae'n hynod bwysig i ni ein bod yn creu dillad o ansawdd uchel wrth gael cyn lleied o effaith negyddol â phosibl ar yr amgylchedd. Dyna pam rydym yn cefnogi gweithgynhyrchwyr sy'n gymdeithasol gyfrifol trwy bob rhan o'r broses.


Wedi'u ddylunio, gynhyrchu a phecynnu yng Nghymru
Fel siaradwyr Cymraeg, rydym yn angerddol am wneud dillad sy'n caniatáu eraill i fynegi eu cariad at y diwylliant. Rydym hefyd o'r farn ei fod yn hanfodol i gefnogi cwmnïau o Gymru trwy gydol y cynhyrchiad o'n dillad. Dyna pam mae ein dillad yn cael eu dylunio, eu cynhyrchu a'u phecynnu yng Nghaerdydd.