Ein Moesegau
Cynaliadwyedd
Mae gan y diwydiant ffasiwn, ar y cyfan, effaith negyddol iawn ar yr amgylchedd ac ar bobl. Mae'r cynhyrchiad o ddillad rhad yn golygu fod prosesau cynhyrchu niweidiol a thriniaeth annheg o weithwyr yn cael eu defnyddio er mwyn lleihau costau. Mae'n cael ei amcangyfrifo bod dim ond 2% o weithwyr ffasiwn yn cael eu talu'r cyflog byw*, mae 10,000 o eitemau dillad yn cael eu danfon i ddirlenwad pob pum munud** ac mae'r diwydiant ffasiwn yn gyfrifol am 10% o allyriadau carbon yn fyd-eang***.
Mae'r ffeithiau yma am ffasiwn gyflym yn erchyll, a dyna pam rydym wedi penderfynu osgoi fod yn rhan o'r broblem trwy ddefnyddio gweithgynhyrchwyr tryloyw a cynaliadwy. Gallwn weld hyn mewn pob cam o'r broses cynhyrchu, o'n dillad ansawdd uchel lawr i ein pecynnu carbon niwtral.
Dyma rhai ffeithiau am ein dillad:
- Maen nhw'n 100% Organig. Mae hyn yn golygu bod plaladdwyr ddim yn cael eu defnyddio, sydd yn niweidiol ar gyfer yr amgylchedd a ffermwyr. Hefyd, mae'n golygu bod y broses cynhyrchu angen llai o ddŵr na chotwm arferol, ac mae'r cotwm hwn yn fwy meddal ac yn para'n hirach.
- Mae gan ein crysau chwys ôl troed carbon sydd tua 28 kg o CO2 yn llai na chrys chwys arferol. Mae hyn oherwydd bod ffatrïoedd ein gweithgynhyrchwyr yn cael eu pweru gan egni adnewyddadwy gwyrdd, ac mae amaethyddiaeth o effaith isel yn cael ei ddefnyddio. O ganlyniad, maent wedi'u cofrestru'n hinsawdd niwtral am fod ganddynt allyriadau nwyon tŷ gwydr ar lefelau cyn-ddiwydiannol.
- Rydym yn defnyddio gweithgynhyrchwyr sydd wedi'u hardystio gan y Fair Wear Foundation. Mae polisi nhw'n golygu bod dillad yn cael eu cynhyrchu mewn ffordd sy'n gymdeithasol gyfrifol, ble mae'r gweithwyr i gyd yn cael eu talu'r cyflog byw, maen nhw'n gweithio oriau teg a does dim defnydd o lafur gorfodol na llafur plant. Mae'r ffatrïoedd yn fodern, sy'n golygu bod y safonau gweithio o safon uchel.
- Mae ein gweithgynhyrchwyr wedi'u hardystio gan y Global Organic Textile Standard (GOTS), sydd yn y math o ardystiad mwyaf llym gan tecstiliau sy'n defnyddio ffibrau organig. Golygai hyn fod y gadwyn cynhyrchu yn cael ei thracio pob cam o'r ffordd (o ffarm i ffatri), a'i fod yn cydymffurfio â safonau llafur yr 'International Labour Organisation'.
Mae'r ffaith bod gweithwyr i gyd yn cael eu talu cyflog teg trwy gydol y broses cynhyrchu, a bod prosesau sy'n cael llai o effaith ar yr amgylchedd yn cael eu defnyddio yn gwneud ein dillad yn ddrytach i gynhyrchu. Er hyn, mae hyn yn fuddiol yn yr hir dymor am fod y dillad o ansawdd uwch ac yn cael eu cynhyrchu i bara. Felly, rydym yn gobeithio bod hyn yn golygu bod llai o wastraff yn mynd i ddirlenwad. Bydd hyn yn arwain at gwsmeriaid hapusach, ac amgylchedd hapusach.
*Fashion Revolution
**North London Waste Association
***Intergovernment Panel on Climate Change